Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Tachwedd 2023
Amser:
09.00 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13553
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Jayne Bryant AS Luke Fletcher AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Andrew Parkhurst, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Cynghorydd Huw David, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Llinos Medi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Clare Sim, Head of Member Support, Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol Colin Everett, Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru Catherine Uphill, Comisiwn Etholiadol |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Clerc) Angharad Era (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Rachael Davies (Ail Glerc) Philip Lewis (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'r Y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.2 Cyllideb ddrafft 2024-25 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
2.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.3 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - Llythyr gan Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
2.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.4 Asedau Cymunedol - Llythyr gan Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
2.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.5 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - Llythyr gan Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
2.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.6 Llythyr gan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A Yw Cymru’n Decach? 2023
2.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.7 Darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin - Llythyr gan Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
2.7a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.8 Asedau cymunedol - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
2.8a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r eitemau a ganlyn yn ystod y cyfarfod heddiw: eitemau 4 a 7
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) - Dull gweithredu ar gyfer gwaith craffu
4.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu a chytunodd arno.
5 Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 4
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Y Cynghorydd Huw David, Llywydd CLlLC ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cynghorydd Andrew Parkhurst, Arweinydd Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol CLlLC
Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
6 Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 5
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Clare Sim, Pennaeth Cymorth Aelodau, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol
Colin Everett, Cadeirydd, Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru
Catherine Uphill, Rheolwr, y Comisiwn Etholiadol
7 Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) – Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.